Croeso - Welcome
Mae Dyffryn Teifi yn llifo ar hyd ffin Ceredigion a Sir Gaerfyrddin yn ne Gorllewin Cymru, wir yr afon Teifi yw y ffin. Mae rhai o olygfeydd godigocaf Cymru i'w gweld yn y dyffryn hwn, er nad yw hyn yn wybodaeth gyffredin ymhobman. Mae'r afon Teifi yn 75 milltir o hyd ac yn rhedeg o Lynnoedd Teifi sydd 1500 o droedfeddi uwch y môr yng nghorllewin mynyddoedd Cambria, lawr i'r môr yn Aberteifi.
Ar y daith mae ceunentydd ewyn gwyn hynod, rheadrau sy'n wledd i'r llygad, pyllau bas diog yn rhedeg dros welyau o raean a dolydd. Mae'r holl ardal yn doreithog o fywyd gwyllt, o'r Eog a'r Gwangiaid yn yr afon ei hun i'r Barcud Coch fri yn yr awyr.
Mae digon i gadw'r ymwelydd yn brysur; mae'r ardal yn baradwys i gerddwyr, beigwyr, pysgotwyr a gwylwyr adar. Mae canolfan ganwio yn Llandysul a Chilgerran. Mae 6 i 7 o draethau hyfryd o fewn cyrraedd, lle y gellir gerdded ar hyd y clogwyni neu eistedd yn y cafe, y tafarnai lleol neu'r tywod euraidd. Yn aml gallwch ddod ar draws dolffiniaid a morloi yn y môr a gellir cymryd cwch o Gei Newydd i'w gwylio.
Mae gan bob un o'r trefi marchnad a'r pentrefi ar y ffordd hanesion i'w hadrodd gyda'r rhan fwyaf o'r pensaerniaeth traddodiadol fel ag yr oedd.
Mae ein lletyai yn unigryw a chroesawgar ac mae eu perchnogion wedi dewis ymgartrefu yn Nyffryn Teifi o bob cwr o'r byd gan iddynt gael eu cyfareddu gan y lleoliad heddychlon hwn a'r hanes a thraddodiadau sydd dal yn fyw heddiw.
Mae llawer o atyniadau i ymweld â hwy, o gestyll, amgueddfeydd, marchnadoedd ffermwyr a chrefftwyr. Falle bod gwell gennych gerdded neu gwylio adar a chyda'r nos cael eich diddanu gyda gwydraid o win a'n awyr llawn sêr - cyfle na ddaw yn aml yn ein dinasoedd llawn goleuadau.
Mae Dyffryn Teifi yn aros amdanoch - dewch i ymuno â ni a mwynhau ein cyfrinachau a'i swyn.
Lletyai, Gweithgareddau ac Atyniadau
Mae dewis each o letyai ar gael ar gyfer gwyliau yn Nyffryn Teifi. Gyda Gwelyau a Brecwast, hunanarlwy o 1 i 36 o westeion, gwersylloedd carafanio a gwersylla mae gan Ddyffryn Teifi'r cwbwl.
Mae Sir Gaerfyrddin yn cael ei adnabod, ac hynny'n haeddiannol, fel 'Gardd Cymru' gyda'r Gerddi Botaneg Cenedlaethol yn Llanarthne o fewn cyrraedd.
Atyniadau lleol eraill ydy: Amgueddfa Plentyndod, Amgueddfa Wlân Cymru, Rheilffordd Stêm Dyffryn Teifi, Glofeydd Aur Dolaucothi, Canolfan y barcud coch yn Nhregaron, y Ganolfan Bywyd Gwyllt yn Nilgerran gyda'i dyfrgwn a'i ych gwyllt a'r rheadrau yn y Ganolfan Gwrwglau Genedlaethol yng Nghenarth.
Mae nifer o gestyll ac adfeilon abatai yn yr ardal - mae castell Cilgerran a Chastell Newydd Emlyn ill dau ar yr afon Teifi, mae abati Ystrad Fflur yn agos i ble mae'r afon Teifi yn tarddu ac mae'r meini hirion ym mynyddoedd y Preseli yn cynnwys siambr gladdu Pentre Ifan.
Crefftau a Digwyddiadau
Mae nifer o artistiaid a chrefftwyr wedi dewis yr ardal fel eu cartref, fel y gallwch ddychmygu yn y fath le prydferth - mae nifer yn derbyn ymwelwyr i'w gweithdai, ac mae nifer o siopau crefft a galeriau sy'n cadw crefftau lleol, fel y Makers Mark yn Nghastell Newydd Emlyn a Galeri a chaffi pendre yn Aberteifi.
Os hoffech gael tro eich hun gallwch ymweld â Craft Studio yn Waunifor, Maesycrugiau, ble y gallwch droi eich llaw at nifer o grefftau, gan gynnwys crochenwaith, gwaith ffelt a mosäig i enwi dim ond rhai.
Mae cyfran mawr o ymwelwyr cyson Dyffryn Teifi yn dod i gael heddwch a thawelwch, i weld yr olygfa hyfryd, y llonyddwch - y lle i feddwl yn glir ac i ailddarganfod eich hun - i ffwrdd o swn a phwysau bywyd bob dydd.
Ydych chi'n rhedeg busnes perthnasol yn Nyffryn Teifi?
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â Chymdeithas Twristiaeth Dyffryn Teifi yna os gwelwch yn dda cysylltwch â ni drwy'r ffurflen ymholiad